26 Ac Alammelech, ac Amad, a Misal; ac yn cyrhaeddyd i Carmel tua'r gorllewin, ac i Sihor‐Libnath:
27 Ac yn troi tua chyfodiad haul i Beth‐dagon, ac yn cyrhaeddyd i Sabulon, ac i ddyffryn Jifftahel, tua'r gogledd i Beth‐Emec, ac i Neiel, ac yn myned ar y llaw aswy i Cabul;
28 A Hebron, a Rehob, a Hammon, a Cana, hyd Sidon fawr.
29 A'r terfyn sydd yn troi i Rama, ac hyd Sor, y ddinas gadarn: a'r terfyn sydd yn troi i Hosa; a'i gyrrau eithaf sydd wrth y môr, o randir Achsib.
30 Umma hefyd, ac Affec, a Rehob: dwy ddinas ar hugain, a'u pentrefydd.
31 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Aser, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd hyn a'u pentrefydd.
32 Y chweched coelbren a ddaeth allan i feibion Nafftali, dros feibion Nafftali, yn ôl eu teuluoedd.