33 A'u terfyn hwy oedd o Heleff, o Alon i Saanannim, ac Adami, Neceb, a Jabneel hyd Lacum: a'i gyrrau eithaf oedd wrth yr Iorddonen.
34 A'r terfyn sydd yn troi tua'r gorllewin i Asnoth‐Tabor, ac yn myned oddi yno i Huccoc; ac yn cyrhaeddyd i Sabulon o du y deau, ac yn cyrhaeddyd i Aser o du y gorllewin, ac i Jwda a'r Iorddonen tua chyfodiad haul.
35 A'r dinasoedd caerog, Sidim, Ser, a Hammath, Raccath, a Chinnereth,
36 Ac Adama, a Rama, a Hasor,
37 A Cedes, ac Edrei, ac En‐hasor,
38 Ac Iron, a Migdal‐el, Horem, a Beth‐anath, a Beth‐semes: pedair dinas ar bymtheg, a'u pentrefydd.
39 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Nafftali, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd, a'u pentrefydd.