4 Ac Eltolad, a Bethul, a Horma,
5 A Siclag, a Beth‐marcaboth, a Hasar‐susa,
6 A Beth‐lebaoth, a Saruhen; tair dinas ar ddeg, a'u pentrefydd:
7 Ain, Rimmon, ac Ether, ac Asan; pedair o ddinasoedd, a'u pentrefydd:
8 A'r holl bentrefydd y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn, hyd Baalath‐beer, Ramath o'r deau. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Simeon, yn ôl eu teuluoedd.
9 O randir meibion Jwda yr oedd etifeddiaeth meibion Simeon: canys rhan meibion Jwda oedd ormod iddynt; am hynny meibion Simeon a gawsant eu hetifeddiaeth o fewn eu hetifeddiaeth hwynt.
10 A'r trydydd coelbren a ddaeth i fyny dros feibion Sabulon, yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd hyd Sarid.