41 A therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd Sora, ac Estaol, ac Ir‐Semes,
42 A Saalabbin, ac Ajalon, ac Ithla,
43 Ac Elon, a Thimnatha, ac Ecron,
44 Ac Eltece, a Gibbethon, a Baalath,
45 A Jehud, a Bene‐berac, a Gath‐rimmon,
46 A Meiarcon, a Raccon, gyda'r terfyn ar gyfer Jaffo.
47 A therfyn meibion Dan a aeth yn rhy fychan iddynt: am hynny meibion Dan a aethant i fyny i ymladd yn erbyn Lesem, ac a'i henillasant hi; trawsant hefyd hi â min y cleddyf, a meddianasant hi, a thrigasant ynddi: a galwasant Lesem yn Dan, yn ôl enw Dan eu tad.