48 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Dan, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd hyn, a'u pentrefydd.
49 Pan orffenasant rannu'r wlad yn etifeddiaethau yn ôl ei therfynau, meibion Israel a roddasant etifeddiaeth i Josua mab Nun yn eu mysg:
50 Wrth orchymyn yr Arglwydd y rhoddasant iddo ef y ddinas a ofynnodd efe; sef Timnath‐Sera, ym mynydd Effraim: ac efe a adeiladodd y ddinas, ac a drigodd ynddi.
51 Dyma yr etifeddiaethau a roddodd Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau tadau llwythau meibion Israel, yn etifeddiaeth, wrth goelbren, yn Seilo, o flaen yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod. Felly y gorffenasant rannu'r wlad.