15 Yna hi a'u gollyngodd hwynt i waered wrth raff trwy'r ffenestr: canys ei thŷ hi oedd ar fur y ddinas, ac ar y mur yr oedd hi yn trigo.
16 A hi a ddywedodd wrthynt, Ewch i'r mynydd, rhag i'r erlidwyr gyfarfod â chwi: ac ymguddiwch yno dridiau, nes dychwelyd yr erlidwyr; ac wedi hynny ewch i'ch ffordd.
17 A'r gwŷr a ddywedasant wrthi, Dieuog fyddwn ni oddi wrth dy lw yma â'r hwn y'n tyngaist.
18 Wele, pan ddelom ni i'r wlad, rhwym y llinyn yma o edau goch yn y ffenestr y gollyngaist ni i lawr trwyddi: casgl hefyd dy dad, a'th fam, a'th frodyr, a holl dylwyth dy dad, atat i'r tŷ yma.
19 A phwy bynnag a êl o ddrysau dy dŷ di allan i'r heol, ei waed ef fydd ar ei ben ei hun, a ninnau a fyddwn ddieuog: a phwy bynnag fyddo gyda thi yn tŷ, bydded ei waed ef ar ein pennau ni, o bydd llaw arno ef.
20 Ac os mynegi di ein neges hyn, yna y byddwn ddieuog oddi wrth dy lw â'r hwn y'n tyngaist.
21 A hi a ddywedodd, Yn ôl eich geiriau, felly y byddo hynny. Yna hi a'u gollyngodd hwynt; a hwy a aethant ymaith. A hi a rwymodd y llinyn coch yn y ffenestr.