18 Wele, pan ddelom ni i'r wlad, rhwym y llinyn yma o edau goch yn y ffenestr y gollyngaist ni i lawr trwyddi: casgl hefyd dy dad, a'th fam, a'th frodyr, a holl dylwyth dy dad, atat i'r tŷ yma.
19 A phwy bynnag a êl o ddrysau dy dŷ di allan i'r heol, ei waed ef fydd ar ei ben ei hun, a ninnau a fyddwn ddieuog: a phwy bynnag fyddo gyda thi yn tŷ, bydded ei waed ef ar ein pennau ni, o bydd llaw arno ef.
20 Ac os mynegi di ein neges hyn, yna y byddwn ddieuog oddi wrth dy lw â'r hwn y'n tyngaist.
21 A hi a ddywedodd, Yn ôl eich geiriau, felly y byddo hynny. Yna hi a'u gollyngodd hwynt; a hwy a aethant ymaith. A hi a rwymodd y llinyn coch yn y ffenestr.
22 A hwy a aethant, ac a ddaethant i'r mynydd; ac a arosasant yno dridiau, nes i'r erlidwyr ddychwelyd. A'r erlidwyr a'u ceisiasant ar hyd yr holl ffordd; ond nis cawsant.
23 Felly y ddau ŵr a ddychwelasant, ac a ddisgynasant o'r mynydd, ac a aethant drosodd, a daethant at Josua mab Nun; a mynegasant iddo yr hyn oll a ddigwyddasai iddynt:
24 A dywedasant wrth Josua, Yn ddiau yr Arglwydd a roddodd yr holl wlad yn ein dwylo ni; canys holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag ein hofn ni.