3 A brenin Jericho a anfonodd at Rahab, gan ddywedyd, Dwg allan y gwŷr a ddaeth atat, y rhai a ddaeth i'th dŷ di; canys i chwilio yr holl wlad y daethant.
4 Ond y wraig a gymerasai y ddau ŵr, ac a'u cuddiasai hwynt, ac a ddywedodd fel hyn; Gwŷr a ddaeth ataf fi, ond ni wyddwn i o ba le y daethent hwy.
5 A phan gaewyd y porth yn y tywyllwch, y gwŷr a aeth allan; ni wn i ba le yr aeth y gwŷr: canlynwch yn fuan ar eu hôl hwynt; canys chwi a'u goddiweddwch hwynt.
6 Ond hi a barasai iddynt esgyn i nen y tŷ, ac a'u cuddiasai hwynt mewn bollteidiau llin, y rhai oedd ganddi wedi eu hysgafnu ar nen y tŷ.
7 A'r gwŷr a ganlynasant ar eu hôl hwynt, tua'r Iorddonen, hyd y rhydau: a'r porth a gaewyd, cyn gynted ag yr aeth y rhai oedd yn erlid ar eu hôl hwynt allan.
8 A chyn iddynt hwy gysgu, hi a aeth i fyny atynt hwy ar nen y tŷ:
9 A hi a ddywedodd wrth y gwŷr, Mi a wn roddi o'r Arglwydd i chwi y wlad; oherwydd eich arswyd chwi a syrthiodd arnom ni, a holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag eich ofn.