1 A Llefarodd yr Arglwydd wrth Josua, gan ddywedyd,
2 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Moeswch i chwi ddinasoedd nodded, am y rhai y lleferais wrthych trwy law Moses:
3 Fel y ffo yno y llofrudd a laddo neb mewn amryfusedd, neu mewn anwybod: a byddant i chwi yn noddfa rhag dialydd y gwaed.
4 A phan ffo efe i un o'r dinasoedd hynny, a sefyll wrth ddrws porth y ddinas, a mynegi ei achosion lle y clywo henuriaid y ddinas honno; cymerant ef atynt i'r ddinas, a rhoddant le iddo, fel y trigo gyda hwynt.
5 Ac os dialydd y gwaed a erlid ar ei ôl ef, na roddant y lleiddiad yn ei law ef: canys mewn anwybod y trawodd efe ei gymydog, ac nid oedd gas ganddo ef o'r blaen.