6 Ac efe a drig yn y ddinas honno, nes iddo sefyll o flaen y gynulleidfa i farn, ac nes marw yr archoffeiriad fyddo yn y dyddiau hynny: yna dychweled y llofrudd, a deued i'w ddinas ac i'w dŷ ei hun; sef y ddinas yr hon y ffoesai efe ohoni.
7 Am hynny y cysegrasant Cedes yn Galilea, ym mynydd Nafftali, a Sichem ym mynydd Effraim, a Chaer‐Arba, hon yw Hebron, ym mynydd Jwda.
8 Ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen, o du y dwyrain i Jericho, y rhoddasant Beser yn yr anialwch ar y gwastadedd, o lwyth Reuben, a Ramoth yn Gilead o lwyth Gad, a Golan yn Basan o lwyth Manasse.
9 Y rhai hyn oedd ddinasoedd gosodedig i holl feibion Israel, ac i'r dieithr a ymdeithiai yn eu mysg hwynt; fel y ffoai pawb iddynt a'r a laddai neb mewn amryfusedd; ac na byddai marw trwy law dialydd y gwaed, nes iddo sefyll o flaen y gynulleidfa.