1 Yna pennau tadau y Lefiaid a nesasant at Eleasar yr offeiriad, ac at Josua mab Nun, ac at bennau tadau llwythau meibion Israel;
2 Ac a lefarasant wrthynt yn Seilo, o fewn gwlad Canaan, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a orchmynnodd, trwy law Moses, roddi i ni ddinasoedd i drigo, a'u meysydd pentrefol i'n hanifeiliaid.
3 A meibion Israel a roddasant i'r Lefiaid o'u hetifeddiaeth, wrth orchymyn yr Arglwydd, y dinasoedd hyn a'u meysydd pentrefol.
4 A daeth y coelbren allan dros deuluoedd y Cohathiaid: ac yr oedd i feibion Aaron yr offeiriad, y rhai oedd o'r Lefiaid, allan o lwyth Jwda, ac o lwyth Simeon, ac o lwyth Benjamin, dair dinas ar ddeg, wrth goelbren.
5 Ac i'r rhan arall o feibion Cohath yr oedd, o deuluoedd llwyth Effraim, ac o lwyth Dan, ac o hanner llwyth Manasse, ddeg dinas, wrth goelbren.
6 Ac i feibion Gerson yr oedd, o deuluoedd llwyth Issachar, ac o lwyth Aser, ac o lwyth Nafftali, ac o hanner llwyth Manasse yn Basan, dair dinas ar ddeg, wrth goelbren.
7 I feibion Merari, wrth eu teuluoedd, yr oedd, o lwyth Reuben, ac o lwyth Gad, ac o lwyth Sabulon, ddeuddeg o ddinasoedd.