15 A Holon a'i meysydd pentrefol, a Debir a'i meysydd pentrefol,
16 Ac Ain a'i meysydd pentrefol, a Jwtta a'i meysydd pentrefol, a Beth‐semes a'i meysydd pentrefol: naw dinas o'r ddau lwyth hynny.
17 Ac o lwyth Benjamin, Gibeon a'i meysydd pentrefol, a Geba a'i meysydd pentrefol,
18 Anathoth a'i meysydd pentrefol, ac Almon a'i meysydd pentrefol: pedair dinas.
19 Holl ddinasoedd meibion Aaron yr offeiriaid, oedd dair dinas ar ddeg, a'u meysydd pentrefol.
20 A chan deuluoedd meibion Cohath, y Lefiaid, y rhan arall o feibion Cohath, yr oedd dinasoedd eu coelbren o lwyth Effraim.
21 A hwy a roddasant iddynt yn ddinas nodded y lleiddiad, Sichem a'i meysydd pentrefol, ym mynydd Effraim, a Geser a'i meysydd pentrefol,