17 Ac o lwyth Benjamin, Gibeon a'i meysydd pentrefol, a Geba a'i meysydd pentrefol,
18 Anathoth a'i meysydd pentrefol, ac Almon a'i meysydd pentrefol: pedair dinas.
19 Holl ddinasoedd meibion Aaron yr offeiriaid, oedd dair dinas ar ddeg, a'u meysydd pentrefol.
20 A chan deuluoedd meibion Cohath, y Lefiaid, y rhan arall o feibion Cohath, yr oedd dinasoedd eu coelbren o lwyth Effraim.
21 A hwy a roddasant iddynt yn ddinas nodded y lleiddiad, Sichem a'i meysydd pentrefol, ym mynydd Effraim, a Geser a'i meysydd pentrefol,
22 A Cibsaim a'i meysydd pentrefol, a Beth‐horon a'i meysydd pentrefol: pedair o ddinasoedd.
23 Ac o lwyth Dan, Eltece a'i meysydd pentrefol, Gibbethon a'i meysydd pentrefol.