21 A hwy a roddasant iddynt yn ddinas nodded y lleiddiad, Sichem a'i meysydd pentrefol, ym mynydd Effraim, a Geser a'i meysydd pentrefol,
22 A Cibsaim a'i meysydd pentrefol, a Beth‐horon a'i meysydd pentrefol: pedair o ddinasoedd.
23 Ac o lwyth Dan, Eltece a'i meysydd pentrefol, Gibbethon a'i meysydd pentrefol.
24 Ajalon a'i meysydd pentrefol, Gath‐Rimmon a'i meysydd pentrefol: pedair o ddinasoedd.
25 Ac o hanner llwyth Manasse, Tanac a'i meysydd pentrefol, a Gath‐Rimmon a'i meysydd pentrefol: dwy ddinas.
26 Yr holl ddinasoedd, y rhai oedd eiddo y rhan arall o deuluoedd meibion Cohath, oedd ddeg, a'u meysydd pentrefol.
27 Ac i feibion Gerson, o deuluoedd y Lefiaid, y rhoddasid, o hanner arall llwyth Manasse, yn ddinas nodded y llofrudd, Golan yn Basan a'i meysydd pentrefol, a Beestera a'i meysydd pentrefol: dwy ddinas.