26 Yr holl ddinasoedd, y rhai oedd eiddo y rhan arall o deuluoedd meibion Cohath, oedd ddeg, a'u meysydd pentrefol.
27 Ac i feibion Gerson, o deuluoedd y Lefiaid, y rhoddasid, o hanner arall llwyth Manasse, yn ddinas nodded y llofrudd, Golan yn Basan a'i meysydd pentrefol, a Beestera a'i meysydd pentrefol: dwy ddinas.
28 Ac o lwyth Issachar, Cison a'i meysydd pentrefol, Dabareth a'i meysydd pentrefol,
29 Jarmuth a'i meysydd pentrefol, En‐gannim a'i meysydd pentrefol: pedair dinas.
30 Ac o lwyth Aser, Misal a'i meysydd pentrefol, Abdon a'i meysydd pentrefol,
31 Helcath a'i meysydd pentrefol, a Rehob a'i meysydd pentrefol: pedair dinas.
32 Ac o lwyth Nafftali, yn ddinas nodded y lleiddiad, Cedes yn Galilea a'i meysydd pentrefol, a Hammoth‐dor a'i meysydd pentrefol: tair dinas.