33 Holl ddinasoedd y Gersoniaid, yn ôl eu teuluoedd, oedd dair dinas ar ddeg, a'u meysydd pentrefol.
34 Ac i deuluoedd meibion Merari, y rhan arall o'r Lefiaid, y rhoddasid, o lwyth Sabulon, Jocnean a'i meysydd pentrefol, a Carta a'i meysydd pentrefol,
35 Dimna a'i meysydd pentrefol, Nahalal a'i meysydd pentrefol: pedair dinas.
36 Ac o lwyth Reuben, Beser a'i meysydd pentrefol, a Jahasa a'i meysydd pentrefol,
37 Cedemoth a'i meysydd pentrefol, Meffaath a'i meysydd pentrefol: pedair dinas.
38 Ac o lwyth Gad, yn ddinas noddfa y llofrudd, Ramoth yn Gilead a'i meysydd pentrefol, a Mahanaim a'i meysydd pentrefol,
39 Hesbon a'i meysydd pentrefol, Jaser a'i meysydd pentrefol; pedair dinas o gwbl.