35 Dimna a'i meysydd pentrefol, Nahalal a'i meysydd pentrefol: pedair dinas.
36 Ac o lwyth Reuben, Beser a'i meysydd pentrefol, a Jahasa a'i meysydd pentrefol,
37 Cedemoth a'i meysydd pentrefol, Meffaath a'i meysydd pentrefol: pedair dinas.
38 Ac o lwyth Gad, yn ddinas noddfa y llofrudd, Ramoth yn Gilead a'i meysydd pentrefol, a Mahanaim a'i meysydd pentrefol,
39 Hesbon a'i meysydd pentrefol, Jaser a'i meysydd pentrefol; pedair dinas o gwbl.
40 Holl ddinasoedd meibion Merari, yn ôl eu teuluoedd, sef y rhan arall o deuluoedd y Lefiaid, oedd, wrth eu coelbren, ddeuddeng ninas.
41 Holl ddinasoedd y Lefiaid, ym meddiant meibion Israel, oedd wyth ddinas a deugain, a'u meysydd pentrefol.