42 Y dinasoedd hyn oedd bob un â'u meysydd pentrefol o'u hamgylch. Felly yr oedd yr holl ddinasoedd hyn.
43 A'r Arglwydd a roddodd i Israel yr holl wlad a dyngodd efe ar ei rhoddi wrth eu tadau hwynt: a hwy a'i meddianasant hi, ac a wladychasant ynddi.
44 Yr Arglwydd hefyd a roddodd lonyddwch iddynt hwy o amgylch, yn ôl yr hyn oll a dyngasai efe wrth eu tadau hwynt; ac ni safodd neb yn eu hwyneb hwynt o'u holl elynion; eu holl elynion a roddodd yr Arglwydd yn eu dwylo hwynt.
45 Ni phallodd dim o'r holl bethau da a lefarasai yr Arglwydd wrth dŷ Israel: daeth y cwbl i ben.