8 A meibion Israel a roddasant i'r Lefiaid y dinasoedd hyn, a'u meysydd pentrefol, fel y gorchmynasai yr Arglwydd trwy law Moses, wrth goelbren.
9 A hwy a roddasant, o lwyth meibion Jwda, ac o lwyth meibion Simeon, y dinasoedd hyn a enwir erbyn eu henwau;
10 Fel y byddent i feibion Aaron, o deuluoedd y Cohathiaid, o feibion Lefi: canys iddynt hwy yr oedd y coelbren cyntaf.
11 A rhoddasant iddynt Gaer‐Arba, tad Anac, honno yw Hebron, ym mynydd‐dir Jwda, a'i meysydd pentrefol oddi amgylch.
12 Ond maes y ddinas, a'i phentrefydd, a roddasant i Caleb mab Jeffunne, yn etifeddiaeth iddo ef.
13 Ac i feibion Aaron yr offeiriad y rhoddasant Hebron a'i meysydd pentrefol, yn ddinas nodded i'r llofrudd; a Libna a'i meysydd pentrefol,
14 A Jattir a'i meysydd pentrefol, ac Estemoa a'i meysydd pentrefol,