1 Yna Josua a alwodd y Reubeniaid a'r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse,
2 Ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a gadwasoch yr hyn oll a orchmynnodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi, ac a wrandawsoch ar fy llais yn yr hyn oll a orchmynnais i chwi.
3 Ni adawsoch eich brodyr, er ys llawer o ddyddiau bellach, hyd y dydd hwn; ond cadwasoch reol gorchymyn yr Arglwydd eich Duw.
4 Ac yn awr yr Arglwydd eich Duw a roddes esmwythdra i'ch brodyr, fel y llefarodd wrthynt: yn awr gan hynny trowch, ac ewch rhagoch i'ch pebyll, i wlad eich meddiant, yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi, o'r tu hwnt i'r Iorddonen.
5 Yn unig cedwch yn ddyfal ar wneuthur y gorchymyn a'r gyfraith a orchmynnodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi; sef caru yr Arglwydd eich Duw, a rhodio yn ei holl ffyrdd ef, a chadw ei orchmynion ef, a glynu wrtho ef, a'i wasanaethu ef â'ch holl galon, ac â'ch holl enaid.
6 A Josua a'u bendithiodd hwynt, ac a'u gollyngodd ymaith. A hwy a aethant i'w pebyll.
7 Ac i hanner llwyth Manasse y rhoddasai Moses etifeddiaeth yn Basan; ac i'r hanner arall y rhoddodd Josua, gyda'u brodyr, tu yma i'r Iorddonen tua'r gorllewin. Hefyd pan ollyngodd Josua hwynt i'w pebyll, yna efe a'u bendithiodd hwynt;