20 Oni wnaeth Achan mab Sera gamwedd, oherwydd y diofryd‐beth, fel y bu digofaint yn erbyn holl gynulleidfa Israel? ac efe oedd un gŵr; eto nid efe yn unig a fu farw am ei anwiredd.
21 Yna meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a atebasant, ac a lefarasant wrth benaethiaid miloedd Israel;
22 Arglwydd Dduw y duwiau, Arglwydd Dduw y duwiau, efe sydd yn gwybod, ac Israel yntau a gaiff wybod, os mewn gwrthryfel, neu mewn camwedd yn erbyn yr Arglwydd y bu hyn, (na wareder ni y dydd hwn,)
23 Os adeiladasom i ni allor i droi oddi ar ôl yr Arglwydd, neu os offrymasom arni boethoffrwm, neu fwyd‐offrwm, neu os aberthasom arni ebyrth hedd; yr Arglwydd ei hun a'i gofynno:
24 Ac onid rhag ofn y peth yma y gwnaethom hyn; gan ddywedyd, Ar ôl hyn eich meibion chwi a adroddant wrth ein meibion ninnau, gan ddywedyd, Beth sydd i chwi a wneloch ag Arglwydd Dduw Israel?
25 Canys yr Arglwydd a roddodd yr Iorddonen hon yn derfyn rhyngom ni a chwi: meibion Reuben, a meibion Gad, nid oes i chwi ran yn yr Arglwydd. Felly y gwnâi eich meibion chwi i'n meibion ni beidio ag ofni yr Arglwydd.
26 Am hynny y dywedasom, Gan adeiladu gwnawn yn awr i ni allor: nid i boethoffrwm, nac i aberth;