1 A Darfu, ar ôl dyddiau lawer, wedi i'r Arglwydd roddi llonyddwch i Israel gan eu holl elynion o amgylch, i Josua heneiddio a myned mewn dyddiau.
2 A Josua a alwodd am holl Israel, am eu henuriaid, ac am eu penaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion; ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a heneiddiais ac a euthum yn oedrannus:
3 Chwithau hefyd a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i'r holl genhedloedd hyn, er eich mwyn chwi: canys yr Arglwydd eich Duw yw yr hwn a ymladdodd drosoch.
4 Gwelwch, rhennais i chwi y cenhedloedd hyn a adawyd, yn etifeddiaeth i'ch llwythau chwi, o'r Iorddonen, a'r holl genhedloedd y rhai a dorrais i ymaith, hyd y môr mawr tua'r gorllewin.
5 A'r Arglwydd eich Duw a'u hymlid hwynt o'ch blaen chwi, ac a'u gyr hwynt ymaith allan o'ch gŵydd chwi; a chwi a feddiennwch eu gwlad hwynt, megis y dywedodd yr Arglwydd eich Duw wrthych.
6 Am hynny ymwrolwch yn lew, i gadw ac i wneuthur y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses; fel na chilioch oddi wrthynt, tua'r llaw ddeau na thua'r llaw aswy;
7 Ac na chydymgyfeilloch â'r cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyda chwi; ac na chofioch enw eu duwiau hwynt, ac na thyngoch iddynt, na wasanaethoch hwynt chwaith, ac nac ymgrymoch iddynt: