4 Gwelwch, rhennais i chwi y cenhedloedd hyn a adawyd, yn etifeddiaeth i'ch llwythau chwi, o'r Iorddonen, a'r holl genhedloedd y rhai a dorrais i ymaith, hyd y môr mawr tua'r gorllewin.
5 A'r Arglwydd eich Duw a'u hymlid hwynt o'ch blaen chwi, ac a'u gyr hwynt ymaith allan o'ch gŵydd chwi; a chwi a feddiennwch eu gwlad hwynt, megis y dywedodd yr Arglwydd eich Duw wrthych.
6 Am hynny ymwrolwch yn lew, i gadw ac i wneuthur y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses; fel na chilioch oddi wrthynt, tua'r llaw ddeau na thua'r llaw aswy;
7 Ac na chydymgyfeilloch â'r cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyda chwi; ac na chofioch enw eu duwiau hwynt, ac na thyngoch iddynt, na wasanaethoch hwynt chwaith, ac nac ymgrymoch iddynt:
8 Ond glynu wrth yr Arglwydd eich Duw, fel y gwnaethoch hyd y dydd hwn.
9 Canys yr Arglwydd a yrrodd allan o'ch blaen chwi genhedloedd mawrion a nerthol: ac amdanoch chwi, ni safodd neb yn eich wynebau chwi hyd y dydd hwn.
10 Un gŵr ohonoch a erlid fil: canys yr Arglwydd eich Duw yw yr hwn sydd yn ymladd drosoch, fel y llefarodd wrthych.