11 A chwi a aethoch dros yr Iorddonen, ac a ddaethoch i Jericho: a gwŷr Jericho a ymladdodd i'ch erbyn, yr Amoriaid, a'r Pheresiaid, a'r Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Girgasiaid, yr Hefiaid, a'r Jebusiaid; a mi a'u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi.
12 A mi a anfonais gacwn o'ch blaen chwi, a'r rhai hynny a'u gyrrodd hwynt allan o'ch blaen chwi; sef dau frenin yr Amoriaid: nid â'th gleddyf di, ac nid â'th fwa.
13 A mi a roddais i chwi wlad ni lafuriasoch amdani, a dinasoedd y rhai nid adeiladasoch, ac yr ydych yn trigo ynddynt: o'r gwinllannoedd a'r olewlannoedd ni phlanasoch, yr ydych yn bwyta ohonynt.
14 Yn awr gan hynny ofnwch yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd a gwirionedd, a bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau o'r tu hwnt i'r afon, ac yn yr Aifft; a gwasanaethwch chwi yr Arglwydd.
15 Ac od yw ddrwg yn eich golwg wasanaethu yr Arglwydd, dewiswch i chwi heddiw pa un a wasanaethoch, ai y duwiau a wasanaethodd eich tadau, y rhai oedd o'r tu hwnt i'r afon, ai ynteu duwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad: ond myfi, mi a'm tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd.
16 Yna yr atebodd y bobl, ac y dywedodd, Na ato Duw i ni adael yr Arglwydd, i wasanaethu duwiau dieithr;
17 Canys yr Arglwydd ein Duw yw yr hwn a'n dug ni i fyny a'n tadau o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed; a'r hwn a wnaeth y rhyfeddodau mawrion hynny yn ein gŵydd ni, ac a'n cadwodd ni yn yr holl ffordd y rhodiasom ynddi, ac ymysg yr holl bobloedd y tramwyasom yn eu plith: