2 A dywedodd Josua wrth yr holl bobl, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Tu hwnt i'r afon y trigodd eich tadau chwi gynt, sef Tera tad Abraham, a thad Nachor: a hwy a wasanaethasant dduwiau dieithr.
3 Ac mi a gymerais eich tad Abraham ymaith o'r tu hwnt i'r afon, ac a'i harweiniais ef trwy holl wlad Canaan, ac a amlheais hefyd ei had ef, ac a roddais iddo Isaac.
4 Ac i Isaac y rhoddais Jacob ac Esau: ac i Esau y rhoddais fynydd Seir i'w etifeddu; ond Jacob a'i feibion a aethant i waered i'r Aifft.
5 A mi a anfonais Moses ac Aaron, ac a drewais yr Eifftiaid, yn ôl yr hyn a wneuthum yn eu mysg: ac wedi hynny y dygais chwi allan,
6 Ac a ddygais eich tadau chwi allan o'r Aifft: a chwi a ddaethoch at y môr; a'r Eifftiaid a erlidiodd ar ôl eich tadau â cherbydau, ac â gwŷr meirch, hyd y môr coch.
7 A phan waeddasant ar yr Arglwydd, efe a osododd dywyllwch rhyngoch chwi a'r Eifftiaid, ac a ddug y môr arnynt hwy, ac a'u gorchuddiodd: eich llygaid chwi a welsant yr hyn a wneuthum yn yr Aifft: trigasoch hefyd yn yr anialwch ddyddiau lawer.
8 A mi a'ch dygais i wlad yr Amoriaid, y rhai oedd yn trigo o'r tu hwnt i'r Iorddonen; a hwy a ymladdasant i'ch erbyn: a myfi a'u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi, fel y meddianasoch eu gwlad hwynt; a minnau a'u difethais hwynt o'ch blaen chwi.