22 A dywedodd Josua wrth y bobl, Tystion ydych yn eich erbyn eich hun, ddewis ohonoch i chwi yr Arglwydd i'w wasanaethu. Dywedasant hwythau, Tystion ydym.
23 Am hynny yn awr (eb efe) bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich mysg, a gostyngwch eich calon at Arglwydd Dduw Israel.
24 A'r bobl a ddywedasant wrth Josua, Yr Arglwydd ein Duw a wasanaethwn, ac ar ei lais ef y gwrandawn.
25 Felly Josua a wnaeth gyfamod â'r bobl y dwthwn hwnnw, ac a osododd iddynt ddeddfau a barnedigaethau yn Sichem.
26 A Josua a ysgrifennodd y geiriau hyn yn llyfr cyfraith Dduw, ac a gymerth faen mawr, ac a'i gosododd i fyny yno dan dderwen oedd yn agos i gysegr yr Arglwydd.
27 A Josua a ddywedodd wrth yr holl bobl, Wele, y maen hwn fydd yn dystiolaeth i ni; canys efe a glywodd holl eiriau yr Arglwydd, y rhai a lefarodd efe wrthym: am hynny y bydd efe yn dystiolaeth i chwi, rhag i chwi wadu eich Duw.
28 Felly Josua a ollyngodd y bobl, bob un i'w etifeddiaeth.