27 A Josua a ddywedodd wrth yr holl bobl, Wele, y maen hwn fydd yn dystiolaeth i ni; canys efe a glywodd holl eiriau yr Arglwydd, y rhai a lefarodd efe wrthym: am hynny y bydd efe yn dystiolaeth i chwi, rhag i chwi wadu eich Duw.
28 Felly Josua a ollyngodd y bobl, bob un i'w etifeddiaeth.
29 Ac wedi'r pethau hyn, y bu farw Josua mab Nun, gwas yr Arglwydd, yn fab dengmlwydd a chant.
30 A hwy a'i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewn Timnath‐sera; yr hon sydd ym mynydd Effraim, o du y gogledd i fynydd Gaas.
31 Ac Israel a wasanaethodd yr Arglwydd holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau yr henuriaid a fu fyw ar ôl Josua, ac a wybuasent holl waith yr Arglwydd a wnaethai efe er Israel.
32 Ac esgyrn Joseff, y rhai a ddygasai meibion Israel i fyny o'r Aifft, a gladdasant hwy yn Sichem, mewn rhan o'r maes a brynasai Jacob gan feibion Hemor tad Sichem, er can darn o arian; a bu i feibion Joseff yn etifeddiaeth.
33 Ac Eleasar mab Aaron a fu farw: a chladdasant ef ym mryn Phinees ei fab, yr hwn a roddasid iddo ef ym mynydd Effraim.