8 A mi a'ch dygais i wlad yr Amoriaid, y rhai oedd yn trigo o'r tu hwnt i'r Iorddonen; a hwy a ymladdasant i'ch erbyn: a myfi a'u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi, fel y meddianasoch eu gwlad hwynt; a minnau a'u difethais hwynt o'ch blaen chwi.
9 Yna Balac mab Sippor brenin Moab, a gyfododd, ac a ryfelodd yn erbyn Israel; ac a anfonodd, ac a alwodd am Balaam mab Beor, i'ch melltigo chwi.
10 Ond ni fynnwn i wrando ar Balaam; am hynny gan fendithio y bendithiodd efe chwi: felly y gwaredais chwi o'i law ef.
11 A chwi a aethoch dros yr Iorddonen, ac a ddaethoch i Jericho: a gwŷr Jericho a ymladdodd i'ch erbyn, yr Amoriaid, a'r Pheresiaid, a'r Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Girgasiaid, yr Hefiaid, a'r Jebusiaid; a mi a'u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi.
12 A mi a anfonais gacwn o'ch blaen chwi, a'r rhai hynny a'u gyrrodd hwynt allan o'ch blaen chwi; sef dau frenin yr Amoriaid: nid â'th gleddyf di, ac nid â'th fwa.
13 A mi a roddais i chwi wlad ni lafuriasoch amdani, a dinasoedd y rhai nid adeiladasoch, ac yr ydych yn trigo ynddynt: o'r gwinllannoedd a'r olewlannoedd ni phlanasoch, yr ydych yn bwyta ohonynt.
14 Yn awr gan hynny ofnwch yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd a gwirionedd, a bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau o'r tu hwnt i'r afon, ac yn yr Aifft; a gwasanaethwch chwi yr Arglwydd.