10 Josua hefyd a ddywedodd, Wrth hyn y cewch wybod fod y Duw byw yn eich mysg chwi; a chan yrru y gyr efe allan y Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Hefiaid, a'r Pheresiaid, a'r Girgasiaid, yr Amoriaid hefyd, a'r Jebusiaid, o'ch blaen chwi.
11 Wele arch cyfamod Arglwydd yr holl ddaear yn myned o'ch blaen chwi i'r Iorddonen.
12 Gan hynny cymerwch yn awr ddeuddengwr o lwythau Israel, un gŵr o bob llwyth.
13 A phan orffwyso gwadnau traed yr offeiriaid, sydd yn dwyn arch Arglwydd IOR yr holl fyd, yn nyfroedd yr Iorddonen, yna dyfroedd yr Iorddonen a dorrir ymaith oddi wrth y dyfroedd sydd yn disgyn oddi uchod: hwy a safant yn bentwr.
14 A phan gychwynnodd y bobl o'u pebyll, i fyned dros yr Iorddonen, a'r offeiriaid oedd yn dwyn arch y cyfamod o flaen y bobl;
15 A phan ddaeth y rhai oedd yn dwyn yr arch hyd yr Iorddonen, a gwlychu o draed yr offeiriaid, oedd yn dwyn yr arch, yng nghwr y dyfroedd, (a'r Iorddonen a lanwai dros ei glannau oll holl ddyddiau y cynhaeaf,)
16 Yna y dyfroedd, y rhai oedd yn disgyn oddi uchod, a safasant; cyfodasant yn bentwr ymhell iawn oddi wrth y ddinas Adam, yr hon sydd o ystlys Saretan: a'r dyfroedd y rhai oedd yn disgyn i fôr y rhos, sef i'r môr heli, a ddarfuant ac a dorrwyd ymaith. Felly y bobl a aethant drosodd ar gyfer Jericho.