14 A phan gychwynnodd y bobl o'u pebyll, i fyned dros yr Iorddonen, a'r offeiriaid oedd yn dwyn arch y cyfamod o flaen y bobl;
15 A phan ddaeth y rhai oedd yn dwyn yr arch hyd yr Iorddonen, a gwlychu o draed yr offeiriaid, oedd yn dwyn yr arch, yng nghwr y dyfroedd, (a'r Iorddonen a lanwai dros ei glannau oll holl ddyddiau y cynhaeaf,)
16 Yna y dyfroedd, y rhai oedd yn disgyn oddi uchod, a safasant; cyfodasant yn bentwr ymhell iawn oddi wrth y ddinas Adam, yr hon sydd o ystlys Saretan: a'r dyfroedd y rhai oedd yn disgyn i fôr y rhos, sef i'r môr heli, a ddarfuant ac a dorrwyd ymaith. Felly y bobl a aethant drosodd ar gyfer Jericho.
17 A'r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, a safasant ar dir sych, yng nghanol yr Iorddonen, yn daclus: a holl Israel oedd yn myned drosodd ar dir sych, nes darfod i'r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen.