2 Ac ymhen y tridiau, y llywiawdwyr a dramwyasant trwy ganol y llu;
3 Ac a orchmynasant i'r bobl, gan ddywedyd, Pan weloch chwi arch cyfamod yr Arglwydd eich Duw, a'r offeiriaid y Lefiaid yn ei dwyn hi; yna cychwynnwch chwi o'ch lle, ac ewch ar ei hôl hi.
4 Eto bydded ennyd rhyngoch chwi a hithau, ynghylch dwy fil o gufyddau wrth fesur: na nesewch ati, fel y gwypoch y ffordd y rhodioch ynddi: canys ni thramwyasoch y ffordd hon o'r blaen.
5 A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ymsancteiddiwch: canys yfory y gwna'r Arglwydd ryfeddodau yn eich mysg chwi.
6 Josua hefyd a lefarodd wrth yr offeiriaid, gan ddywedyd, Codwch arch y cyfamod, ac ewch drosodd o flaen y bobl. A hwy a godasant arch y cyfamod, ac a aethant o flaen y bobl.
7 A dywedodd yr Arglwydd wrth Josua, Y dydd hwn y dechreuaf dy fawrhau di yng ngŵydd holl Israel: fel y gwypont, mai megis y bûm gyda Moses, y byddaf gyda thithau.
8 Am hynny gorchymyn di i'r offeiriaid sydd yn dwyn arch y cyfamod, gan ddywedyd, Pan ddeloch hyd gwr dyfroedd yr Iorddonen, sefwch yn yr Iorddonen.