11 A phan ddarfu i'r holl bobl fyned drosodd, yna arch yr Arglwydd a aeth drosodd, a'r offeiriaid, yng ngŵydd y bobl.
12 Meibion Reuben hefyd, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a aethant drosodd yn arfogion o flaen meibion Israel, fel y llefarasai Moses wrthynt:
13 Ynghylch deugain mil, yn arfogion i ryfel, a aethant drosodd o flaen yr Arglwydd i ryfel, i rosydd Jericho.
14 Y dwthwn hwnnw yr Arglwydd a fawrhaodd Josua yng ngolwg holl Israel; a hwy a'i hofnasant ef, fel yr ofnasant Moses, holl ddyddiau ei einioes.
15 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Josua, gan ddywedyd,
16 Gorchymyn i'r offeiriaid, sydd yn dwyn arch y dystiolaeth, ddyfod ohonynt i fyny allan o'r Iorddonen.
17 Am hynny Josua a orchmynnodd i'r offeiriaid, gan ddywedyd, Deuwch i fyny allan o'r Iorddonen.