14 Y dwthwn hwnnw yr Arglwydd a fawrhaodd Josua yng ngolwg holl Israel; a hwy a'i hofnasant ef, fel yr ofnasant Moses, holl ddyddiau ei einioes.
15 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Josua, gan ddywedyd,
16 Gorchymyn i'r offeiriaid, sydd yn dwyn arch y dystiolaeth, ddyfod ohonynt i fyny allan o'r Iorddonen.
17 Am hynny Josua a orchmynnodd i'r offeiriaid, gan ddywedyd, Deuwch i fyny allan o'r Iorddonen.
18 A phan ddaeth yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, i fyny o ganol yr Iorddonen, a sengi o wadnau traed yr offeiriaid ar y sychdir; yna dyfroedd yr Iorddonen a ddychwelasant i'w lle, ac a aethant, megis cynt, dros ei holl geulennydd.
19 A'r bobl a ddaethant i fyny o'r Iorddonen y degfed dydd o'r mis cyntaf; ac a wersyllasant yn Gilgal, yn eithaf tu dwyrain Jericho.
20 A'r deuddeg carreg hynny, y rhai a ddygasent o'r Iorddonen, a sefydlodd Josua yn Gilgal.