2 Cymerwch i chwi ddeuddengwr o'r bobl, un gŵr o bob llwyth;
3 A gorchmynnwch iddynt, gan ddywedyd, Cymerwch i chwi oddi yma, o ganol yr Iorddonen, o'r fan y mae traed yr offeiriaid yn sefyll yn daclus, ddeuddeg o gerrig; a dygwch hwynt drosodd gyda chwi, a gosodwch hwynt yn y llety y lletyoch ynddo heno.
4 Yna Josua a alwodd am y deuddengwr a baratoesai efe o feibion Israel, un gŵr o bob llwyth:
5 A dywedodd Josua wrthynt, Ewch trosodd o flaen arch yr Arglwydd eich Duw, trwy ganol yr Iorddonen; a chodwch i chwi bob un ei garreg ar ei ysgwydd, yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel:
6 Fel y byddo hyn yn arwydd yn eich mysg chwi, pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn, gan ddywedyd, Beth y mae y cerrig hyn yn ei arwyddocau i chwi?
7 Yna y dywedwch wrthynt, Dorri ymaith ddyfroedd yr Iorddonen o flaen arch cyfamod yr Arglwydd; pan oedd hi yn myned trwy 'r Iorddonen, dyfroedd yr Iorddonen a dorrwyd ymaith. Y mae'r cerrig hyn yn goffadwriaeth i feibion Israel byth.
8 A meibion Israel a wnaethant felly fel y gorchmynasai Josua; ac a gymerasant ddeuddeg carreg o ganol yr Iorddonen, fel y llefarasai yr Arglwydd wrth Josua, yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel, ac a'u dygasant drosodd gyda hwynt i'r llety ac a'u cyfleasant yno.