21 Ac efe a lefarodd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn i'w tadau, gan ddywedyd, Beth yw y cerrig hyn?
22 Yna yr hysbyswch i'ch meibion, gan ddywedyd, Israel a ddaeth trwy'r Iorddonen hon ar dir sych.
23 Canys yr Arglwydd eich Duw chwi a sychodd ddyfroedd yr Iorddonen o'ch blaen chwi, nes i chwi fyned drwodd; megis y gwnaeth yr Arglwydd eich Duw i'r môr coch, yr hwn a sychodd efe o'n blaen ni, nes i ni fyned drwodd:
24 Fel yr adnabyddo holl bobloedd y ddaear law yr Arglwydd, mai nerthol yw; fel yr ofnoch yr Arglwydd eich Duw bob amser.