4 Yna Josua a alwodd am y deuddengwr a baratoesai efe o feibion Israel, un gŵr o bob llwyth:
5 A dywedodd Josua wrthynt, Ewch trosodd o flaen arch yr Arglwydd eich Duw, trwy ganol yr Iorddonen; a chodwch i chwi bob un ei garreg ar ei ysgwydd, yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel:
6 Fel y byddo hyn yn arwydd yn eich mysg chwi, pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn, gan ddywedyd, Beth y mae y cerrig hyn yn ei arwyddocau i chwi?
7 Yna y dywedwch wrthynt, Dorri ymaith ddyfroedd yr Iorddonen o flaen arch cyfamod yr Arglwydd; pan oedd hi yn myned trwy 'r Iorddonen, dyfroedd yr Iorddonen a dorrwyd ymaith. Y mae'r cerrig hyn yn goffadwriaeth i feibion Israel byth.
8 A meibion Israel a wnaethant felly fel y gorchmynasai Josua; ac a gymerasant ddeuddeg carreg o ganol yr Iorddonen, fel y llefarasai yr Arglwydd wrth Josua, yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel, ac a'u dygasant drosodd gyda hwynt i'r llety ac a'u cyfleasant yno.
9 A Josua a osododd i fyny ddeuddeg carreg yng nghanol yr Iorddonen, yn y lle yr oedd traed yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch y cyfamod, yn sefyll: ac y maent yno hyd y dydd hwn.
10 A'r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn yr arch, a safasant yng nghanol yr Iorddonen, nes gorffen pob peth a orchmynasai yr Arglwydd i Josua ei lefaru wrth y bobl, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Moses wrth Josua: a'r bobl a frysiasant, ac a aethant drosodd.