11 Felly arch yr Arglwydd a amgylchodd y ddinas, gan fyned o'i hamgylch un waith: a daethant i'r gwersyll, a lletyasant yn y gwersyll.
12 A Josua a gyfododd yn fore; a'r offeiriaid a ddygasant arch yr Arglwydd.
13 A'r saith offeiriad, yn dwyn saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr Arglwydd, oeddynt yn myned dan gerdded, ac yn lleisio â'r utgyrn: a'r rhai arfog oedd yn myned o'u blaen hwynt: a'r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl arch yr Arglwydd, a'r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â'r utgyrn.
14 Felly yr amgylchynasant y ddinas un waith yr ail ddydd; a dychwelasant i'r gwersyll: fel hyn y gwnaethant chwe diwrnod.
15 Ac ar y seithfed dydd y cyfodasant yn fore ar godiad y wawr, ac yr amgylchasant y ddinas y modd hwnnw, saith waith: yn unig y dwthwn hwnnw yr amgylchasant y ddinas seithwaith.
16 A phan leisiodd yr offeiriaid yn eu hutgyrn y seithfed waith, yna Josua a ddywedodd wrth y bobl, Bloeddiwch; canys rhoddodd yr Arglwydd y ddinas i chwi.
17 A'r ddinas fydd yn ddiofryd‐beth, hi, a'r hyn oll sydd ynddi, i'r Arglwydd: yn unig Rahab y buteinwraig fydd byw, hi a chwbl ag sydd gyda hi yn tŷ; canys hi a guddiodd y cenhadau a anfonasom ni.