17 A'r ddinas fydd yn ddiofryd‐beth, hi, a'r hyn oll sydd ynddi, i'r Arglwydd: yn unig Rahab y buteinwraig fydd byw, hi a chwbl ag sydd gyda hi yn tŷ; canys hi a guddiodd y cenhadau a anfonasom ni.
18 Ac ymgedwch chwithau oddi wrth y diofryd‐beth, rhag eich gwneuthur eich hun yn ddiofryd‐beth, os cymerwch o'r diofryd‐beth; felly y gwnaech wersyll Israel yn ddiofryd‐beth, ac y trallodech hi.
19 Ond yr holl arian a'r aur, a'r llestri pres a haearn, fyddant gysegredig i'r Arglwydd: deled y rhai hynny i mewn i drysor yr Arglwydd.
20 A bloeddiodd y bobl, pan leisiasant â'r utgyrn. A phan glybu y bobl lais yr utgyrn, yna y bobl a waeddasant â bloedd uchel; a'r mur a syrthiodd i lawr oddi tanodd. Felly y bobl a aethant i fyny i'r ddinas, pob un ar ei gyfer, ac a enillasant y ddinas.
21 A hwy a ddifrodasant yr hyn oll oedd yn y ddinas, yn ŵr ac yn wraig, yn fachgen ac yn hynafgwr, yn eidion, ac yn ddafad, ac yn asyn, â min y cleddyf.
22 A Josua a ddywedodd wrth y ddau ŵr a fuasai yn edrych ansawdd y wlad, Ewch i dŷ y buteinwraig, a dygwch allan oddi yno y wraig, a'r hyn oll sydd iddi, fel y tyngasoch wrthi.
23 Felly y llanciau a fuasai yn edrych ansawdd y wlad, a aethant i mewn, ac a ddygasant allan Rahab, a'i thad, a'i mam, a'i brodyr, a chwbl a'r a feddai hi: dygasant allan hefyd ei holl dylwyth hi, a gosodasant hwynt o'r tu allan i wersyll Israel.