5 A phan ganer yn hirllaes â chorn yr hwrdd, a phan glywoch sain yr utgorn, bloeddied yr holl bobl â bloedd uchel: a syrth mur y ddinas dani hi, ac eled y bobl i fyny bawb ar ei gyfer.
6 A Josua mab Nun a alwodd yr offeiriaid, ac a ddywedodd wrthynt, Codwch arch y cyfamod, a dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr Arglwydd.
7 Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Cerddwch, ac amgylchwch y ddinas; a'r hwn sydd arfog, eled o flaen arch yr Arglwydd.
8 A phan ddywedodd Josua wrth y bobl, yna y saith offeiriad, y rhai oedd yn dwyn y saith utgorn o gyrn hyrddod, a gerddasant o flaen yr Arglwydd, ac a leisiasant â'r utgyrn: ac arch cyfamod yr Arglwydd oedd yn myned ar eu hôl hwynt.
9 A'r rhai arfog oedd yn myned o flaen yr offeiriaid oedd yn lleisio â'r utgyrn; a'r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl yr arch, a'r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â'r utgyrn.
10 A Josua a orchmynasai i'r bobl, gan ddywedyd, Na floeddiwch, ac na edwch glywed eich llais, ac nac eled gair allan o'ch genau, hyd y dydd y dywedwyf wrthych, Bloeddiwch; yna y bloeddiwch.
11 Felly arch yr Arglwydd a amgylchodd y ddinas, gan fyned o'i hamgylch un waith: a daethant i'r gwersyll, a lletyasant yn y gwersyll.