11 Israel a bechodd, a throseddasant fy nghyfamod a orchmynnais iddynt: cymerasant hefyd o'r diofryd‐beth, lladratasant, a gwadasant; gosodasant hefyd hynny ymysg eu dodrefn eu hun.
12 Am hynny ni ddichon meibion Israel sefyll yn wyneb eu gelynion, eithr troant eu gwar o flaen eu gelynion; am eu bod yn ysgymunbeth: ni byddaf mwyach gyda chwi, oni ddifethwch yr ysgymunbeth o'ch mysg.
13 Cyfod, sancteiddia y bobl, a dywed, Ymsancteiddiwch erbyn yfory: canys fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Diofryd‐beth sydd yn dy blith di, O Israel: ni elli sefyll yn wyneb dy elynion, nes tynnu ymaith y diofryd‐beth o'ch mysg.
14 Am hynny nesewch y bore wrth eich llwythau: a'r llwyth a ddalio yr Arglwydd, nesaed bob yn deulu; a'r teulu a ddalio yr Arglwydd, nesaed bob yn dŷ; a'r tŷ a ddalio yr Arglwydd, nesaed bob yn ŵr.
15 A'r hwn a ddelir a'r diofryd‐beth ganddo, a losgir â thân, efe ac oll sydd ganddo: oherwydd iddo droseddu cyfamod yr Arglwydd, ac oherwydd iddo wneuthur ynfydrwydd yn Israel.
16 Felly Josua a gyfododd yn fore, ac a ddug Israel wrth eu llwythau: a llwyth Jwda a ddaliwyd.
17 Ac efe a ddynesodd deulu Jwda; a daliwyd teulu y Sarhiaid: ac efe a ddynesodd deulu y Sarhiaid bob yn ŵr; a daliwyd Sabdi: