17 Ac efe a ddynesodd deulu Jwda; a daliwyd teulu y Sarhiaid: ac efe a ddynesodd deulu y Sarhiaid bob yn ŵr; a daliwyd Sabdi:
18 Ac efe a ddynesodd ei dyaid ef bob yn ŵr; a daliwyd Achan mab Carmi, mab Sabdi, mab Sera, o lwyth Jwda.
19 A Josua a ddywedodd wrth Achan, Fy mab, atolwg, dyro ogoniant i Arglwydd Dduw Israel, a chyffesa iddo; a mynega yn awr i mi beth a wnaethost: na chela oddi wrthyf.
20 Ac Achan a atebodd Josua, ac a ddywedodd, Yn wir myfi a bechais yn erbyn Arglwydd Dduw Israel; canys fel hyn ac fel hyn y gwneuthum.
21 Pan welais ymysg yr ysbail fantell Fabilonig deg, a dau can sicl o arian, ac un llafn aur o ddeg sicl a deugain ei bwys; yna y chwenychais hwynt, ac a'u cymerais: ac wele hwy yn guddiedig yn y ddaear yng nghanol fy mhabell, a'r arian danynt.
22 Yna Josua a anfonodd genhadau; a hwy a redasant i'r babell: ac wele hwynt yn guddiedig yn ei babell ef, a'r arian danynt.
23 Am hynny hwy a'u cymerasant o ganol y babell, ac a'u dygasant at Josua, ac at holl feibion Israel; ac a'u gosodasant hwy o flaen yr Arglwydd.