22 Yna Josua a anfonodd genhadau; a hwy a redasant i'r babell: ac wele hwynt yn guddiedig yn ei babell ef, a'r arian danynt.
23 Am hynny hwy a'u cymerasant o ganol y babell, ac a'u dygasant at Josua, ac at holl feibion Israel; ac a'u gosodasant hwy o flaen yr Arglwydd.
24 A Josua a gymerth Achan mab Sera, a'r arian, a'r fantell, a'r llafn aur, ei feibion hefyd, a'i ferched, a'i wartheg, a'i asynnod, ei ddefaid hefyd, a'i babell, a'r hyn oll a feddai efe: a holl Israel gydag ef a'u dygasant hwynt i ddyffryn Achor.
25 A Josua a ddywedodd, Am i ti ein blino ni, yr Arglwydd a'th flina dithau y dydd hwn. A holl Israel a'i llabyddiasant ef â meini, ac a'u llosgasant hwy â thân, wedi eu llabyddio â meini.
26 A chodasant arno ef garnedd fawr o gerrig hyd y dydd hwn. Felly y dychwelodd yr Arglwydd oddi wrth lid ei ddigofaint. Am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn Achor, hyd y dydd hwn.