3 A hwy a ddychwelasant at Josua, ac a ddywedasant wrtho. Nac eled yr holl bobl i fyny; ond ynghylch dwy fil o wŷr, neu dair mil o wŷr, a ânt i fyny, ac a drawant Ai: na phoenwch yr holl bobl yno; canys ychydig ydynt hwy.
4 Felly fe a aeth o'r bobl i fyny yno ynghylch tair mil o wŷr: a hwy a ffoesant o flaen gwŷr Ai.
5 A gwŷr Ai a drawsant ynghylch un gŵr ar bymtheg ar hugain ohonynt; ac a'u hymlidiasant o flaen y porth hyd Sebarim, a thrawsant hwynt yn y goriwaered: am hynny y toddodd calonnau y bobl, ac yr aethant fel dwfr.
6 A Josua a rwygodd ei ddillad, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr Arglwydd, hyd yr hwyr, efe a henuriaid Israel, ac a ddodasant lwch ar eu pennau.
7 A dywedodd Josua, Ah, ah, O Arglwydd IOR, i ba beth y dygaist y bobl yma dros yr Iorddonen, i'n rhoddi ni yn llaw yr Amoriaid, i'n difetha? O na buasem fodlon, ac na thrigasem tu hwnt i'r Iorddonen!
8 O Arglwydd, beth a ddywedaf, pan dry Israel ei war o flaen ei elynion!
9 Canys y Canaaneaid, a holl drigolion y wlad, a glywant, ac a'n hamgylchynant, ac a dorrant ymaith ein henw oddi ar y ddaear: a pha beth a wnei i'th enw mawr?