6 A Josua a rwygodd ei ddillad, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr Arglwydd, hyd yr hwyr, efe a henuriaid Israel, ac a ddodasant lwch ar eu pennau.
7 A dywedodd Josua, Ah, ah, O Arglwydd IOR, i ba beth y dygaist y bobl yma dros yr Iorddonen, i'n rhoddi ni yn llaw yr Amoriaid, i'n difetha? O na buasem fodlon, ac na thrigasem tu hwnt i'r Iorddonen!
8 O Arglwydd, beth a ddywedaf, pan dry Israel ei war o flaen ei elynion!
9 Canys y Canaaneaid, a holl drigolion y wlad, a glywant, ac a'n hamgylchynant, ac a dorrant ymaith ein henw oddi ar y ddaear: a pha beth a wnei i'th enw mawr?
10 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Cyfod; paham yr ydwyt yn gorwedd fel hyn ar dy wyneb?
11 Israel a bechodd, a throseddasant fy nghyfamod a orchmynnais iddynt: cymerasant hefyd o'r diofryd‐beth, lladratasant, a gwadasant; gosodasant hefyd hynny ymysg eu dodrefn eu hun.
12 Am hynny ni ddichon meibion Israel sefyll yn wyneb eu gelynion, eithr troant eu gwar o flaen eu gelynion; am eu bod yn ysgymunbeth: ni byddaf mwyach gyda chwi, oni ddifethwch yr ysgymunbeth o'ch mysg.