1 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna, ac nac arswyda: cymer gyda thi yr holl bobl o ryfel, a chyfod, dos i fyny i Ai: gwêl, mi a roddais yn dy law di frenin Ai, a'i bobl, ei ddinas hefyd, a'i wlad.
2 A thi a wnei i Ai a'i brenin, megis y gwnaethost i Jericho ac i'w brenin: eto ei hanrhaith a'i hanifeiliaid a ysglyfaethwch i chwi eich hunain: gosod gynllwyn yn erbyn y ddinas, o'r tu cefn iddi.
3 Yna Josua a gyfododd, a'r holl bobl o ryfel, i fyned i fyny i Ai: a Josua a ddetholodd ddeng mil ar hugain o wŷr cedyrn nerthol, ac a'u hanfonodd ymaith liw nos:
4 Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Gwelwch, chwi a gynllwynwch yn erbyn y ddinas, o'r tu cefn i'r ddinas: nac ewch ymhell iawn oddi wrth y ddinas, ond byddwch bawb oll yn barod.
5 Minnau hefyd, a'r holl bobl sydd gyda mi, a nesawn at y ddinas: a phan ddelont allan i'n cyfarfod ni, megis y waith gyntaf, yna ni a ffown o'u blaen hwynt,
6 (Canys hwy a ddeuant allan ar ein hôl ni,) nes i ni eu tynnu hwynt allan o'r ddinas; oblegid hwy a ddywedant, Ffoi y maent o'n blaen ni, fel y waith gyntaf: felly y ffown o'u blaen hwynt.
7 Yna chwi a godwch o'r cynllwyn, ac a oresgynnwch y ddinas: canys yr Arglwydd eich Duw a'i dyry hi yn eich llaw chwi.