11 A'r holl bobl o ryfel, y rhai oedd gydag ef, a aethant i fyny, ac a nesasant; daethant hefyd gyferbyn â'r ddinas, a gwersyllasant o du'r gogledd i Ai: a glyn oedd rhyngddynt hwy ac Ai.
12 Ac efe a gymerth ynghylch pum mil o wŷr, ac a'u gosododd hwynt i gynllwyn rhwng Bethel ac Ai, o du'r gorllewin i'r ddinas.
13 A'r bobl a osodasant yr holl wersyllau, y rhai oedd o du'r gogledd i'r ddinas, a'r cynllwynwyr o du'r gorllewin i'r ddinas: a Josua a aeth y noson honno i ganol y dyffryn.
14 A phan welodd brenin Ai hynny, yna gwŷr y ddinas a frysiasant, ac a foregodasant, ac a aethant allan i gyfarfod Israel i ryfel, efe a'i holl bobl, ar amser nodedig, ar hyd wyneb y gwastadedd: canys ni wyddai efe fod cynllwyn iddo, o'r tu cefn i'r ddinas.
15 A Josua a holl Israel, fel pe trawsid hwy o'u blaen hwynt, a ffoesant ar hyd yr anialwch.
16 A'r holl bobl, y rhai oedd yn y ddinas, a alwyd ynghyd, i erlid ar eu hôl hwynt: a hwy a erlidiasant ar ôl Josua, ac a dynnwyd oddi wrth y ddinas.
17 Ac ni adawyd gŵr yn Ai, nac yn Bethel, a'r nad aethant allan ar ôl Israel: a gadawsant y ddinas yn agored, ac erlidiasant ar ôl Israel.