14 A phan welodd brenin Ai hynny, yna gwŷr y ddinas a frysiasant, ac a foregodasant, ac a aethant allan i gyfarfod Israel i ryfel, efe a'i holl bobl, ar amser nodedig, ar hyd wyneb y gwastadedd: canys ni wyddai efe fod cynllwyn iddo, o'r tu cefn i'r ddinas.
15 A Josua a holl Israel, fel pe trawsid hwy o'u blaen hwynt, a ffoesant ar hyd yr anialwch.
16 A'r holl bobl, y rhai oedd yn y ddinas, a alwyd ynghyd, i erlid ar eu hôl hwynt: a hwy a erlidiasant ar ôl Josua, ac a dynnwyd oddi wrth y ddinas.
17 Ac ni adawyd gŵr yn Ai, nac yn Bethel, a'r nad aethant allan ar ôl Israel: a gadawsant y ddinas yn agored, ac erlidiasant ar ôl Israel.
18 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Estyn y waywffon sydd yn dy law tuag at Ai: canys yn dy law di y rhoddaf hi. A Josua a estynnodd y waywffon oedd yn ei law tua'r ddinas.
19 A'r cynllwynwyr a gyfodasant yn ebrwydd o'u lle, ac a redasant, pan estynnodd efe ei law: daethant hefyd i'r ddinas, ac enillasant hi; ac a frysiasant, ac a losgasant y ddinas â thân.
20 A gwŷr Ai a droesant yn eu hôl, ac a edrychasant; ac wele, mwg y ddinas a ddyrchafodd hyd y nefoedd; ac nid oedd ganddynt hwy nerth i ffoi yma nac acw: canys y bobl y rhai a ffoesent i'r anialwch, a ddychwelodd yn erbyn y rhai oedd yn erlid.