18 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Estyn y waywffon sydd yn dy law tuag at Ai: canys yn dy law di y rhoddaf hi. A Josua a estynnodd y waywffon oedd yn ei law tua'r ddinas.
19 A'r cynllwynwyr a gyfodasant yn ebrwydd o'u lle, ac a redasant, pan estynnodd efe ei law: daethant hefyd i'r ddinas, ac enillasant hi; ac a frysiasant, ac a losgasant y ddinas â thân.
20 A gwŷr Ai a droesant yn eu hôl, ac a edrychasant; ac wele, mwg y ddinas a ddyrchafodd hyd y nefoedd; ac nid oedd ganddynt hwy nerth i ffoi yma nac acw: canys y bobl y rhai a ffoesent i'r anialwch, a ddychwelodd yn erbyn y rhai oedd yn erlid.
21 A phan welodd Josua a holl Israel i'r cynllwynwyr ennill y ddinas, a dyrchafu o fwg y ddinas, yna hwy a ddychwelasant, ac a drawsant wŷr Ai.
22 A'r lleill a aethant allan o'r ddinas i'w cyfarfod; felly yr oeddynt yng nghanol Israel, y rhai hyn o'r tu yma, a'r lleill o'r tu acw: a thrawsant hwynt, fel na adawyd un yng ngweddill nac yn ddihangol ohonynt.
23 A brenin Ai a ddaliasant hwy yn fyw; a dygasant ef at Josua.
24 Pan ddarfu i Israel ladd holl breswylwyr Ai yn y maes, yn yr anialwch lle yr erlidiasent hwynt, a phan syrthiasent hwy oll gan fin y cleddyf, nes eu darfod; yna holl Israel a ddychwelasant i Ai, a thrawsant hi â min y cleddyf.