24 Pan ddarfu i Israel ladd holl breswylwyr Ai yn y maes, yn yr anialwch lle yr erlidiasent hwynt, a phan syrthiasent hwy oll gan fin y cleddyf, nes eu darfod; yna holl Israel a ddychwelasant i Ai, a thrawsant hi â min y cleddyf.
25 A chwbl a'r a syrthiasant y dwthwn hwnnw, yn wŷr ac yn wragedd, oeddynt ddeuddeng mil; sef holl wŷr Ai.
26 Canys ni thynnodd Josua ei law yn ei hôl, yr hon a estynasai efe gyda'r waywffon, nes difetha holl drigolion Ai.
27 Yn unig yr anifeiliaid, ac anrhaith y ddinas, a ysglyfaethodd yr Israeliaid iddynt eu hun; yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a orchmynasai efe i Josua.
28 A Josua a losgodd Ai, ac a'i gwnaeth hi yn garnedd dragywydd, ac yn ddiffeithwch hyd y dydd hwn.
29 Ac efe a grogodd frenin Ai ar bren hyd yr hwyr: ac wedi machlud haul, y gorchmynnodd Josua iddynt ddisgyn ei gelain ef oddi ar y pren, a'i bwrw i ddrws porth y ddinas; a gosodasant garnedd fawr o gerrig arni hyd y dydd hwn.
30 Yna Josua a adeiladodd allor i Arglwydd Dduw Israel ym mynydd Ebal,