26 Canys ni thynnodd Josua ei law yn ei hôl, yr hon a estynasai efe gyda'r waywffon, nes difetha holl drigolion Ai.
27 Yn unig yr anifeiliaid, ac anrhaith y ddinas, a ysglyfaethodd yr Israeliaid iddynt eu hun; yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a orchmynasai efe i Josua.
28 A Josua a losgodd Ai, ac a'i gwnaeth hi yn garnedd dragywydd, ac yn ddiffeithwch hyd y dydd hwn.
29 Ac efe a grogodd frenin Ai ar bren hyd yr hwyr: ac wedi machlud haul, y gorchmynnodd Josua iddynt ddisgyn ei gelain ef oddi ar y pren, a'i bwrw i ddrws porth y ddinas; a gosodasant garnedd fawr o gerrig arni hyd y dydd hwn.
30 Yna Josua a adeiladodd allor i Arglwydd Dduw Israel ym mynydd Ebal,
31 Megis y gorchmynasai Moses gwas yr Arglwydd i feibion Israel, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, allor o gerrig cyfain, y rhai ni ddyrchafasid haearn arnynt: a hwy a offrymasant arni boethoffrymau i'r Arglwydd, ac a aberthasant ebyrth hedd.
32 Ac efe a ysgrifennodd yno ar y meini o gyfraith Moses, yr hon a ysgrifenasai efe yng ngŵydd meibion Israel.